Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 16 Rhagfyr 2021
Amser:
13.00 -
14.25
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12718
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS |
Tystion: |
Michelle Morris, ymgeisydd dewisol o ran swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Owain Davies (Ymchwilydd) Catherine McKeag (Ysgrifenyddiaeth) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (12.45-13.00)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Llythyr gan y Llywydd at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021 - 25 Tachwedd 2021
2.2 PTN 2 - Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Archwilio, Cynulliad Gogledd Iwerddon: Ystyried Trothwyon ar gyfer Monitro yn ystod y Flwyddyn: Comisiwn Cynulliad Gogledd Iwerddon - 29 Tachwedd 2021
2.3 PTN 3 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau – Deiseb P-05-1078 - Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid! - 2 Rhagfyr 2021
3 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Gwrandawiad cyn enwebu.
3.1 Cynhaliodd y Pwyllgor Wrandawiad Cyn-enwebu ynghylch yr ymgeisydd a ffefrir ar gyfer swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Michelle Morris.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Trafod y gwrandawiad cyn enwebu.
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor addasrwydd yr ymgeisydd a ffefrir.
6 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pwer i Addasu) - Dull o graffu
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull o graffu ar Gyfnod 1 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu).
7 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23 - Ymgysylltu â Dinasyddion
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr ymatebion i’r ymgynghoriad a chrynodeb o'i waith ymgysylltu.